Daeth grŵp o lowyr ac ymgyrchwyr hawliau hoywon ynghyd neithiwr i nodi 30 mlynedd ers i Streic y Glowyr ddod i ben.

Ymunodd Grŵp Cefnogi Glowyr Castell-nedd, Dulais ac Abertawe â grŵp Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr ar gyfer digwyddiad arbennig yn Neuadd Les Glowyr Onllwyn yng Nghwm Nedd.

Y ddau grŵp oedd y prif ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm lwyddiannus a phoblogaidd ‘Pride’.

Un o’r rhai fu’n flaenllaw yn Streic y Glowyr oedd Aelod Seneddol dros Ddwyrain Abertawe, Siân James.

Bydd hi’n ysgrifennydd ar sefydliad newydd sy’n cael ei greu i ddatblygu ar y berthynas rhwng y ddau grŵp.

Roedd hi’n wraig tŷ ac yn briod â glowr yng Nghwm Tawe adeg y Streic, ac yn cefnogi teuluoedd glofaol eraill yr ardal yn ystod y cyfnod anoddaf yn eu hanes.

Mae ei hanes wedi ei chofnodi yn y gyfrol ‘O’r Llinell Biced i San Steffan’ (gydag Alun Gibbard), un o’r teitlau sy’n ymddangos yn y casgliad Stori Sydyn (Y Lolfa) sy’n cael ei lansio yn y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Llun.