Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud bod y Ceidwadwyr yn barod i ystyried clymblaid â phlaid UKIP ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage eisoes y byddai’n barod i gefnogi’r Ceidwadwyr mewn clymblaid pe baen nhw’n cytuno i gynnal refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Osborne wedi cyhuddo Farage o gymhlethu’r sefyllfa, gan honni nad yw arweinydd UKIP yn “gyfrannwr credadwy” i’r etholiad cyffredinol.
Dywedodd Osborne wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Nonsens llwyr yw’r cyfan.
“Mae pleidleisio dros Nigel Farage yn ei gwneud hi’n debygol mai Ed Miliband fyddai’n Brif Weinidog ac mae’n golygu na chewch chi refferendwm o gwbl, yn hytrach na refferendwm ar Ewrop.
“Nid yw Nigel Farage yn mynd i ennill seddi yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Mae ymgysylltu â Nigel Farage ynghylch hyn hyd yn oed, yn rhoi crediniaeth iddo fe lle nad oes ganddo fe grediniaeth o gwbl.”
Mae Farage wedi cyflwyno cyfres o fesurau yr hoffai eu cyflwyno mewn clymblaid mewn darnau o hunangofiant sydd wedi’i gyhoeddi yn y Sunday Telegraph.
Mae Farage eisoes wedi dweud yr hoffai atal pobol sydd heb basport Prydeinig rhag pleidleisio, gan gynnwys ei Almaenes o wraig, Kirsten.
Dywedodd fod yr Undeb Ewropeaidd “mewn argfywng”.
Mae Prif Weinidog Prydain wedi addo cynnal refferendwm ar Ewrop cyn 2017 pe bai’n parhau mewn grym.