Roedd yr Aelod Seneddol Llafur Eric Joyce yn talu £450 y noson am ystafelloedd mewn gwestai gan ddefnyddio cerdyn credyd gwaith am hyd at ddwy flynedd cyn i’r cerdyn gael ei atal.
Daeth ei weithgarwch i’r amlwg ym mis Ionawr pan geisiodd hawlio costau, ac fe gafodd y cerdyn ei atal gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol – ond nid cyn i Joyce fynd i ddyled o £13,000.
Bellach, mae Joyce yn talu £1,000 o’i gyflog fel Aelod Seneddol tuag at y bil, ond ni fydd y cyfan wedi’i ad-dalu cyn diwedd y cyfnod seneddol presennol, pan fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Aelod Seneddol dros Falkirk.
Mae’n honni nad oes rhaid iddo ad-dalu £6,000 o’r cyfanswm, ond fe allai wynebu achos llys pe bai’n gwrthod talu’r cyfanswm yn llawn.
Yn ôl yr awdurdodau, talodd Joyce £743 ar ei gerdyn credyd am dair noson mewn gwesty yn Glasgow fis Medi diwethaf, er mai £120 y noson yw’r uchafswm y mae modd ei hawlio am aros y tu allan i Lundain.
Ceisiodd hawlio £272.33 am westy ym mis Awst, a £208 am westy arall ym mis Medi – ond ni dderbyniodd y treuliau.
Mae cofnodion yn dangos hefyd ei fod wedi hawlio £203.05 yn fwy na’r uchafswm am westy yn Llundain ym mis Mai 2013, a £61.45 yn fwy na’r uchafswm am westy arall fis yn ddiweddarach.
Ym 2012, talodd £896.92 ar y cerdyn am ddwy noson mewn gwesty yn Llundain.
£4,000 yw cyfanswm yr holl nosweithiau mewn gwestai – a dydy Ipsa ddim wedi talu’r rhan fwyaf o’r biliau.
Dywedodd llefarydd ar ran Ipsa eu bod nhw wedi rhoi digon o gyfleoedd i Joyce ad-dalu’r arian cyn ei dynnu allan o’i gyflog.