Mae’r awdur a beirniad gwrth-Gymraeg, AA Gill wedi dweud bod ymchwiliad y BBC i ymddygiad y cyflwynydd Jeremy Clarkson yn “hurt a thrwsgl”.
Daw sylwadau Gill wedi iddi ddod i’r amlwg fod Clarkson wedi ffonio penaethiaid y Gorfforaeth i ymddiheuro am y digwyddiad pan honnir iddo daro cynhyrchydd Top Gear, Oisin Tymon.
Mae disgwyl i Clarkson wynebu gwrandawiad disgyblu, ac mae AA Gill wedi dweud fod ei gyfaill yn gweithio’n galed.
Yn ei golofn i bapur newydd y Sun, awgrymodd Clarkson y gallai roi’r gorau i Top Gear, gan gymharu ei hun â deinosôr sydd wedi gwneud camgymeriad.
Wrth amddiffyn Clarkson, dywedodd AA Gill yn ei golofn yn y Sunday Times: “Mae pobol yn gweithio oriau hir o dan dipyn o straen, ac mae pethau bychain – bwyd fel arfer – yn feini tramgwydd.
“Beth bynnag ddigwyddodd, wrth amddiffyn Jeremy, nid oes unrhyw un sy’n gweithio’n galetach nac o dan fwy o straen na fe.”
Roedd disgwyl i Top Gear fynd ar daith i Norwy ddiwedd y mis, ond nid oes cadarnhad eto a fydd yn cael ei chynnal yn dilyn y ffrae.
Mae cytundebau Clarkson, James May a Richard Hammond yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
Bydd y panel disgyblu yn cael ei arwain gan bennaeth BBC yr Alban, Ken MacQuarrie, a arweiniodd yr ymchwiliad i eitem Newsnight am yr Arglwydd McAlpine.