Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau bod seiclon Pam wedi lladd o leiaf wyth o bobol, ac maen nhw wedi rhybuddio y gallai nifer y meirw gynyddu’n sylweddol dros y dyddiau nesaf.

Achosodd gwyntoedd o hyd at 168 milltir yr awr ddifrod difrifol ar yr ynys, ac mae pryder y gallai dwsinau o bobol fod wedi cael eu lladd.

Mae’r seiclon yn cael ei ystyried yn un o’r trychinebau gwaethaf erioed ar ynysoedd y Môr Tawel.

Cafodd yr ymdrechion i ddod o hyd i ragor o bobol eu heffeithio gan ddiffyg systemau cyfathrebu a thrydan, ac mae adroddiadau bod pentrefi cyfan wedi colli pŵer mewn ardaloedd anghysbell.

Mae nifer o blith 76 o aelodau staff Swyddfa Reoli Trychinebau Naturiol yn dal ar goll.

Mae degau o drigolion yr ynys wedi cael lloches mewn canolfannau brys.

Mae gan Vanuata boblogaeth o 267,000 wedi’u rhannu rhwng 65 o ynysoedd ac mae lle i gredu bod hyd at 54,000 wedi cael eu heffeithio gan y seiclon.

Daeth cadarnhad fod y Cenhedloedd Unedig yn paratoi i anfon gwasanaethau brys i’r ynysoedd.

Dywedodd arlywydd Vanuatu, Baldwin Lonsdale wrth gynhadledd: “Dydw i ddim wir yn gwybod pa effaith mae’r seiclon wedi ei chael ar Vanuatu.

“Rwy’n siarad â chi heddiw gyda chalon drom iawn.

“Rwy’n apelio ar ran y llywodraeth a’r bobol ar i chi roi cymorth yn dilyn trychineb.”

Ychwanegodd mai’r flaenoriaeth yw sicrhau bod gan drigolion yr ynysoedd fwyd, dŵr a lloches.

Mae Seland Newydd eisoes wedi addo rhoi miliwn o ddoleri (£498,000) i helpu’r apêl, ac mae disgwyl i’r seiclon deithio heibio’r wlad heddiw.