Mae dyn 26 oed o Gaerffili wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 18 oed ym mharc gwyliau Trecco Bay ym Mhorthcawl.

Bu farw Conner Marshall o’i anafiadau yn dilyn ymosodiad difrifol ym maes parcio’r parc gwyliau ddydd Sul diwethaf.

Cafodd y dyn sy’n cael ei amau o’i ladd ei arestio yn Glasgow, ac fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Hurley: “Hoffwn sicrhau trigolion ac ymwelwyr â Phorthcawl a pharc carafanau Trecco Bay fod hwn yn ymddangos yn ddigwyddiad unigo ar safle sy’n cael ei reoli’n dda.

“Mae Rheolwyr Parkdean Trecco Bay yn parhau i gydweithio’n agos â Heddlu’r De a hoffwn ddiolch i Parkdean a’r gymuned leol ill dau am eu cefnogaeth a’u cymorth.

“Mae ein meddyliau gyda theulu Conner a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn – ac rydym yn parhau i gefnogi ei deulu gyda swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.