Mae cerflun newydd o Mahatma Gandhi wedi’i ddadorchuddio yn Parliament Square, Llundain, heddiw.
Yno, gyda David Cameron, yr oedd wyr Gandhi, Shri Gopalkrishna Gandhi, ac Amitabh Bachchan, un o actorion enwoca’ India.
“Mae’r cerflun hwn yn deyrnged fendigedig i un o gewri hanes a gwleidyddiaeth,” meddai David Cameron. “Trwy osod Mahatma Gandhi yn y sgwar hwn, rydan ni’n rhoi cartre’ oesol iddo yn ein gwlad ni.
“Mae’r cerflun hwn hefyd yn dathlu’r cyfeillgarwch arbennig rhwng democratiaeth hyna’r byd a’r ddemocratiaeth fwya’, yn ogystal a dathlu pwer rhyngwladol neges Gandhi.
Mae’r cerflun wedi’i greu gan Phillip Jackson ac wedi’i ysbrydoli gan ffotograff o Gandhi yn 10 Stryd Downing yn y flwyddyn 1931.