Mae dynes oedrannus wedi’i chludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol, wedi i ddau fachgen yn harddegau ymosod arni a dwyn ganddi wrth iddi adael archfarchnad.

Fe gafodd y wraig 82 mlwydd oed ei mygio gan y pâr wrth iddi adael siop Morrisons yn Enfield, gogledd Llundain, toc wedi 1yp ddoe.

Fe gafodd ei bwrw i’r llawr tra’r oedden nhw’n dwyn ei phwrs. Fe ddioddefodd anafiadau i’w phen a chleisiau ofnadwy i’w hwyneb.

Does neb wedi’i arestio eto mewn perthynas â’r digwyddiad.