Mae gweithwyr achub yn poeni fod storm drofannol wedi dinistrio pentrefi cyfan yn Vanuatu, yn yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel un o’r trychinebau gwaetha’ erioed yn ardal y Môr Tawel.
Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu y gallai dwsinau o bobol fod wedi’u lladd wrth i wyntoedd o hyd at 155 milltir yr awr rwygo trwy gadwyn o ynysoedd.
Roedd ynys Efate, sy’n cynnwys porthladd a phrifddinas Vanuatu, Port Vila, yn llwybr y seiclon sydd wedi’i henwi’n Pam gan feterolegwyr.