Tony Blair gyda George Bush
Bydd milwyr o wledydd Prydain a fu farw yn ystod y rhyfel yn Afghanistan yn cael eu cofio mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan St Paul heddiw.
Cafodd 453 o aelodau o luoedd arfog Prydain eu lladd yn ystod y rhyfel yn erbyn y Taliban rhwng 2002 a 2014.
Mae disgwyl i’r Frenhines ac aelodau eraill o’r teulu brenhinol, y Prif Weinidog David Cameron, a nifer o gyn-filwyr fod yn y gwasanaeth heddiw sydd yn nodi diwedd yr ymgyrch filwrol yn y wlad.
13 mlynedd o ryfela
Fe barodd y rhyfel am 13 mlynedd, wrth i filwyr Prydain ymuno â chynghrair o wledydd wedi eu harwain gan yr UDA i geisio cael gwared â’r Taliban yn dilyn ymosodiadau 9/11.
Dros gyfnod y rhyfel fe wnaeth bron i 150,000 o’r lluoedd arfog wasanaethu yn Afghanistan.
Bydd teuluoedd rhai o’r rheiny fu farw yn cymryd rhan yn y gwasanaeth cofio, ac fe fydd rhai o gyn-filwyr yr ymgyrch yn martsio heibio i’r gadeirlan mewn parêd yn dilyn y gwasanaeth.
Mae disgwyl i wleidyddion eraill o’r Llywodraeth gan gynnwys y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon hefyd fod yn y gwasanaeth, ac fe fydd Archesgob Caergaint Justin Welby yn annerch.
Dywedodd Arlywydd Afghanistan Ashraf Ghani wrth y BBC fod y milwyr Prydeinig fu farw wedi “talu’r aberth eithaf er mwyn sicrhau ein bod ni’n byw mewn rhyddid, gyda gobaith am heddwch, llewyrch ac urddas”.
Blair yn cyfaddef
Daw’r gwasanaeth ar ôl i Tony Blair gyfaddef nad oedd wedi rhagweld pa mor hir fyddai’r ymladd yn Afghanistan yn parhau pan wnaeth y penderfyniad i anfon milwyr yno.
Dywedodd mewn cyfweliad â Forces TV nad oedd pobl wedi sylwi ar y pryd faint o waith fyddai angen ei wneud yn y wlad i geisio cael gwared â’r Taliban.
“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi deall dyfnder y broblem eto, maint y peth, a’r angen am strategaeth gynhwysfawr i ddelio â’r peth,” meddai Tony Blair.
“Nid jyst am y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac a Syria … mae’n digwydd pob dydd – mae miloedd o bobl yn colli eu bywydau bob wythnos.”
Mynnodd y cyn-Brif Weinidog ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth anfon milwyr Prydain i Afghanistan – gan gyfaddef o bosib na fyddai teuluoedd y rheiny fu farw yn cytuno.
“Roeddwn i wastad yn teimlo ei bod hi’n iawn ac yn gyfiawn ein bod ni yno yn Afghanistan, ein bod ni’n ymladd yn gyntaf geisio cael gwared â’r Taliban ac yna i sefydlogi’r wlad,” meddai Tony Blair.
“Ond does dim byd sydd wir yn bosib ei ddweud allai fod yn gysur i deulu rhywun sydd wedi colli eu bywyd.”