Daniel Craig yw'r James Bond presennol (PA)
Tra bo ganddo’r leisans i ladd, mae’n debyg nad oes gan sbei enwoca’ Brenhines Lloegr yr hawl i fod yn Senedd Cymru.
Mae BBC Cymru yn honni bod cais i gael ffilmio rhan o’r ffilm James Bond newydd yn y Senedd yng Nghaerdydd wedi ei wrthod.
Yn ôl BBC Cymru fe gafwyd y cais yn hwyr y llynedd i ffilmio yn siambr y Senedd.
Fe ddywedodd y Cynulliad nad yw’r siambr yn “stiwdio drama”.
Fe wrthododd criw cynhyrchu’r ffilm gynnig i ddefnyddio lleoliadau eraill dan reolaeth y Cynulliad.
Bydd y ffilm Spectre yn y sinemâu ym mis Tachwedd, ac mae disgwyl mawr amdani yn dilyn llwyddiant mawr Skyfall yn 2012.
Dim Bond yn siomi Aelodau Cynulliad
Mae Aelodau Cynulliad wedi mynegi siom yn dilyn y newyddion fod y Cynulliad wedi gwrthod rhoi caniatâd i rannau o ffilm nesaf James Bond gael eu ffilmio yn siambr y Senedd.
Dywedodd y Lib Dem Peter Black y byddai caniatáu i’r ffilmio ddigwydd wedi dangos bod gan y Cynulliad ychydig o hiwmor.
Roedd ACau eraill gan gynnwys Bethan Jenkins o Blaid Cymru ymysg y rheiny fynegodd siom gyda’r penderfyniad, a Leighton Andrews o’r Blaid Lafur yn un o’r rhai fu’n trydar yr hashnod #seneddbond ar Twitter yn jocian am y sefyllfa.
Siambr ‘sacrosanct’
Awgrymodd Peter Black mai ceisio cadw delwedd y Senedd oedd mwyaf tebyg yn gyfrifol am benderfyniad y Cynulliad i wrthod y cais.
“Dw i’n amau ei fod achos bod y Comisiwn yn ceisio cadw’r Siambr yn sacrosanct, fel canolfan ar gyfer democratiaeth,” meddai Peter Black wrth golwg360.
“Yn bersonol dw i’n meddwl y byddai wedi bod yn syniad da, fe fyddai wedi bod yn gyhoeddusrwydd da cael James Bond yn ffilmio yn y Senedd – taswn i’n gwneud y penderfyniad fe fyddwn i wedi dweud ie.
“Byddai o leiaf wedi dangos fod gennym ni rhywfaint o synnwyr digrifwch!”
Doedd yr Aelodau Cynulliad ddim yn ymwybodol o’r cais ffilmio gafodd ei wrthod tan i’r newyddion ddod allan neithiwr.
Ond fe awgrymodd Peter Black, AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros Orllewin De Cymru, fod cynsail yn y gorffennol yn debygol o fod wedi arwain at y penderfyniad.
Dywedodd hefyd nad oedd yn siŵr pwy yn union oedd yn gyfrifol am y penderfyniad, ond ei bod hi’n ddigon posib y bydden nhw wedi trafod y mater â’r Llywydd Rosemary Butler.
“Fel arfer byddai’r math yma o benderfyniad yn cael ei wneud gan swyddogion. Mae’r Comisiwn wedi ystyried yn y gorffennol a ddylai’r siambr gael ei ddefnyddio ar gyfer dramâu, ac wedi dweud na.
“Felly rydw i’n cymryd bod swyddogion wedi cymryd mai dyna oedd y polisi. Ond dydw i ddim yn siŵr a fyddai’n rhywbeth y bydden nhw wedi trafod â’r Llywydd, dydw i heb ddod i waelod y mater eto.”
‘Cartref democratiaeth’
Mae’r Cynulliad bellach wedi dweud mewn datganiad mai nid ‘stiwdio ddrama’ yw’r Siambr ac felly y gwrthodwyd y cais i ffilmio James Bond yno.
“Mae Siambr y Senedd yn gartref i ddemocratiaeth Gymreig a llywodraeth i Gymru. Mae peth gweithgaredd gan y cyfryngau yn cael ei ganiatáu yn y Siambr pan mae’n ymwneud â gwaith y Cynulliad neu’n adlewyrchu statws y Siambr fel canolbwynt bywyd Cymreig.
“Nid yw’n stiwdio ddrama.
“Mae penderfyniadau ar geisiadau gan y diwydiannau creadigol i ddefnyddio ystâd y Cynulliad yn cael eu gwneud ar sail y ceisiadau unigol, ac rydym yn falch o fod wedi cydweithio gyda nifer o gwmnïau teledu a ffilm ar gynyrchiadau fel Sherlock a Dr Who.
“Cafodd y cais gan James Bond i ddefnyddio’r Siambr ei wrthod … fe gawson nhw gynnig i ddefnyddio lleoliadau eraill ar yr ystâd, ond fe gafodd y cynnig ei wrthod.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Cynulliad pwy oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad.