Terfysg Ferguson (PA)
Mae’r heddlu, arweinwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr hawliau sifil wedi bod yn ceisio tawelu tensiynau yn Ferguson yn yr UDA. Fe gafodd dau heddwas eu saethu yno ddoe.
Daeth y ddinas i sylw’r byd yn dilyn protestiadau hirfaith ar ôl i ddyn ifanc du diarfog gael ei saethu’n farw gan heddwas gwyn yno’r llynedd.
Ac mae pryderon y gallai’r tensiynau rhwng y protestwyr a’r heddlu gynyddu ar ôl y digwyddiad diweddaraf, y tro cyntaf i swyddogion heddlu gael eu saethu gan brotestwyr.
Anafiadau
Mae’r ddau heddwas wedi eu hanafu’n sylweddol ar ôl cael eu saethu, un yn ei ysgwydd a’r llall yn ei wyneb. Ond mae disgwyl i’r ddau ohonyn nhw wella.
Bu’r saethu yn ystod protest ddoe ar ôl i bennaeth yr heddlu Tom Jackson ymddiswyddo yn sgîl adroddiad damniol gan Weinidogaeth Gyfiawnder yr UDA.
Y gred oedd bod y ddau heddwas, oedd yn rhan o griw o swyddogion oedd yn sefyll y tu allan i swyddfa’r heddlu yn y ddinas, wedi cael eu saethu gan rywun oedd ar draws y ffordd.
Nes ymlaen fe aeth tîm o swyddogion gydag arfau arbennig i gartref yn Ferguson oedd yn agos i’r orsaf heddlu, ond chafodd neb eu harestio.
Neithiwr fe ddaeth tua 50 o bobl at ei gilydd mewn sgwâr yn y ddinas i weddïo dros y swyddogion gafodd eu hanafu.
Tensiynau
Mae tensiynau wedi bod rhwng yr heddlu a phrotestwyr croenddu ers yr haf ar ôl i lanc ifanc du diarfog, Michael Brown, gael ei saethu’n farw gan y swyddog heddlu gwyn Darren Wilson.
Fe gynyddodd y protestiadau ar ôl i reithgor arbennig benderfynu ym mis Tachwedd na fyddai Darren Wilson yn cael ei erlyn am saethu Michael Brown.
Mae’r protestwyr wedi cyhuddo’r heddlu yno o fod yn hiliol, ac fe awgrymodd y Weinidogaeth Amddiffyn bod problem o arwahanu ar sail hil yn bodoli ymysg heddlu’r ddinas hefyd.