Pier Llandudno - ar stamp
Mae un o biers enwoca’ Cymru ar werth am £4.5 miliwn.

Fe gyhoeddodd y perchnogion, Six Piers Ltd, eu bod yn gosod Pier Llandudo a dau bier yn Blackpool ar y farchnad.

Mae’r pier cyfan yn 2295 troedfedd o hyd (mwy na 700m) ac mae’n cynnwys amrywiaeth o siopau a chaffis.

Rhestru

Ac yntau wedi ei agor yn 1878, mae hefyd wedi ei restru ar Raddfa II sy’n golygu bod cyfyngiadau ar y posibilrwydd o’i addasu.

Yn ôl y gwerthwyr, sy’n rhan o’r cwmni o Wigan, Cuerden Leisure, fyddai perchnogion newydd ddim yn debyg o fod eisiau ei newid beth bynnag.

Roedd Pafiliwn y Pier wedi cynnal cyngherddau gan enwogion, o’r gantores Petula Clark i’r arweinydd cerddorfa Malcolm Sergeant, ond fe gafodd ei ddinistrio gan dân yn 1994.