Vaughan Gething
Mae cronfa o £50 miliwn wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chamddefnydd o gyffuriau ac alcohol yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.
Mae’r buddsoddiad yn cynnwys arian ar gyfer gwasanaethau i helpu plant a phobol ifanc, i helpu cleifion i gael eu traed danyn mewn cyfleusterau preswyl, dadwenwyno cleifion yn yr ysbyty a gwasanaethau cwnsela.
Fe fydd y gronfa hefyd yn cefnogi rhaglenni addysg a phrosiectau cyfalaf i gynyddu faint o driniaeth sydd ar gael a’i gwneud yn haws ei chael.
Yr amcangyfrif yw bod y defnydd o alcohol a chyffuriau dosbarth A yn costio cymaint â £2biliwn y flwyddyn i Gymru o ran ei effaith economaidd a chymdeithasol.
Dyma’r ffigurau:
- 467 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn.
- 135 o farwolaethau yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau yn 2013’
- 34,000 yn mynd i’r ysbyty oherwydd alcohol yn 2012.
- Heddluoedd Cymru yn cofnodi 11,766 o droseddau yn ymwneud â chyffuriau yn 2013-14.
Dywedodd y Dirprwy weinidog Iechyd Vaughan Gething: “Camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau eraill yw un o’r ffyrdd mwyaf torcalonnus y gall pobol achosi niwed iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’r cymunedau lle maen nhw’n byw.”