Y Llyfrgelll Genedlaethol
Fe fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn penderfynu heddiw a ydyn nhw’n cynnal ymchwiliad annibynnol i achos o ddiswyddo annheg.
Mae disgwyl y bydd cyfarfod bwrdd y Llyfrgell yn sefydlu’r ymchwiliad i ystyried y camgymeraidau yn achos yr uwchswyddogion Arwel ‘Rocet’ Jones ac Elwyn Williams a gafodd eu disgyblu yn dilyn cyfres o gamgymeriadau wrth drafod cytundeb gyda chwmni preifat.
Mewn datganiad, dywedodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Syr Deian Hopkin: “Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn Barn Ohiriedig y Tribiwnlys Cyflogaeth a gynhaliwyd fis Awst a Hydref 2014 yn Hwlffordd.
“Yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd, byddwn yn cynnig sefydlu archwiliad annibynnol i ystyried oblygiadau’r Farn hon ac er mwyn adolygu’r prosesau a arweiniodd at yr achos”.
Cefndir
Fe gafodd Arwel ‘Rocet’ Jones ac Elwyn Williams eu gwahardd o’u gwaith yn 2014, gan leihau pwysigrwydd eu swyddi a’u rhoi ar gyflogau llai.
Roedd hyn, yn eu barn nhw, yn gyfystyr â chael eu diswyddo ac fe benderfynodd tribiwnlys bod y ddau wedi cael eu diswyddo’n annheg.
Mae undeb yr FDA, sy’n cynrychioli’r ddau swyddog, yn dweud ei bod yn bwysig bod yr ymchwiliad yn un cyflawn a’u bod nhwthau’n cael gwahoddiad i roi tystiolaeth.
Mae Elwyn Williams yn parhau i weithio i’r Llyfrgell ac Arwel Jones bellach gyda Chyngor Llyfrau Cymru.