Mae nifer y cleifion yng Nghymru sy’n disgwyl yn hwy na naw mis am driniaeth ysbyty wedi codi  11% rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Bu’n rhaid i dros 23,500 o gleifion aros yn hirach na’r disgwyl am driniaeth, fel sgan MRI a phrofion uwchsain, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae’r ffigwr wedi codi o 21,226 ym mis Rhagfyr i 23,500 ym mis Ionawr.

Targed  Llywodraeth Cymru yw na ddylai unrhyw glaf orfod aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth, ond nid yw’r byrddau iechyd wedi llwyddo i gyrraedd hynny ers tua phedair blynedd.

Daw’r ffigyrau wedi’r cyhoeddiad ddoe na fydd comisiwn trawsbleidiol yn cael ei ffurfio i edrych  ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd.

‘Problem hirdymor’

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod saith o bob 10 o bobl yn disgwyl llai na’r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnostig a bod £15 miliwn wedi cael ei gyhoeddi i wella’r gwasanaethau.

Ond yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams mae’r broblem yn un hirdymor:

“Mae rhestrau aros hir yn broblem enfawr i Gymru. Ym mis Mawrth 2012 roedd 1,612 yn disgwyl yn hwy na 9 mis am driniaeth. Mae ffigyrau heddiw yn dangos bod 23,521. Mae hynny’n achos pryder go iawn.

“Mae’n rhaid cofio bod y rhan fwyaf o’r unigolion hyn mewn poen neu yn methu gwneud gweithgareddau bob dydd felly mae gorfod aros dros naw mis am driniaeth yn warthus.”