Mae angen gwneud mwy i ddatrys problemau teuluoedd yn lle achub plant a’u rhoi mewn gofal, yn ôl y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford heddiw.
Wrth annerch cynhadledd plant sy’n derbyn gofal ym Mhowys ar gyfer llywodraeth leol, dywedodd y Gweinidog fod angen ad-drefnu’r system fel bod gweithwyr proffesiynol a’r adnoddau yn canolbwyntio ar gadw teuluoedd gyda’i gilydd gymaint â phosibl.
Amlinellodd y Gweinidog mai’r nod yw lleihau patrymau ymyrryd ym mywydau plant fel bod modd dod â mwy o bobl ifanc sydd mewn gofal y tu allan i Gymru yn agosach at gartref, gan ddod â mwy o bobl ifanc sy’n derbyn gofal y tu allan i’w siroedd yn ôl i’w hardal enedigol. Y bwriad yw lleihau nifer y plant sy’n cael eu rhoi yn y system ffurfiol derbyn gofal yn y dyfodol.
Cynnydd yn nifer y plant mewn gofal
Roedd cynnydd o 37% yn nifer y plant oedd yn derbyn gofal yng Nghymru rhwng 2002 a 2014, gyda 1,574 yn fwy o blant yn y system derbyn gofal yn 2014 nag yn 2002. Hefyd roedd cynnydd yn y gyfradd o gymryd plant i ffwrdd o’u teuluoedd yn y cyfnod hwn – o 64 fesul 10,000 o’r boblogaeth yn 2003 i 91 fesul 10,000 heddiw.
Dywedodd Mark Drakeford, “Yng Nghymru, dwi’n credu bod gormod o blant yn cael eu rhoi yng ngofal awdurdodau cyhoeddus. Mae hyn yn digwydd ar gyfradd gyflymach fyth, sy’n gynyddol gynt na’r gyfradd ar ochr draw’r ffin.
“Wrth gwrs, dydw i ddim yn awgrymu y dylai plant gael eu gadael gyda’u teuluoedd bob tro, doed a ddêl. Bydd wastad amgylchiadau lle mae’n well achub na thrwsio.
“Fy nadl i yw bod angen ad-drefnu’r system er mwyn i ni, a’r adnoddau y mae eu hangen, ganolbwyntio ar alluogi teuluoedd i barhau i ofalu am eu plant.”
“Byddwn ni’n defnyddio’r amser, yr egni a’r adnodd a fydd yn cael eu rhyddhau i helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, gan dreulio llai o amser yn delio ag effeithiau methiant a buddsoddi mewn gwasanaethau atal problemau er mwyn sicrhau llwyddiant hirdymor.”
Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn awgrymu y bydd hyn yn hawdd. Rydym yn ceisio gwrthdroi sefyllfa sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers dros chwarter canrif.”