Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi gwrthod diystyru’r posibiliad y gallai’r Ceidwadwyr gydweithio ag unrhyw blaid ar ôl yr etholiad, mewn cyfweliad gyda golwg360.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yna unrhyw blaid y byddai’r Torïaid ddim yn ystyried gweithio â nhw ar ôl 7 Mai, fe wnaeth AS Preseli Benfro osgoi rhoi ateb gan fynnu mai canolbwyntio ar ennill mwyafrif oedd ei flaenoriaeth.
Daw hyn yn ystod wythnos ble mae Llafur wedi dod o dan gryn dipyn o bwysau gan y Ceidwadwyr i ddweud na fyddan nhw’n clymbleidio gyda’r SNP ar ôl yr etholiad.
Gwrthod diystyru
Yr wythnos hon fe ategodd David Cameron neges y Ceidwadwyr fod pleidlais i Lafur yn agor y drws i’r SNP ddylanwadu ar wleidyddiaeth San Steffan, gan alw ar Ed Miliband i ddweud yn bendant na fyddai’n cydweithio gydag Alex Salmond.
Ond pan ofynnwyd i Stephen Crabb os oedd y Ceidwadwyr yn fodlon diystyru gweithio gydag unrhyw un o’r pleidiau fyddai yn y senedd ar ôl yr etholiad, megis UKIP neu’r SNP, fe wrthododd wneud hynny.
“Yn ddelfrydol dydyn ni ddim eisiau gweithio gydag unrhyw blaid arall ar ôl yr etholiad, dyna pam rydyn ni’n ymgyrchu am fwyafrif Ceidwadol,” meddai Stephen Crabb wrth ohebydd golwg360.
“Unwaith mae plaid yn dechrau poeni am glymbleidiau mae’n dangos nad ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â dangos i’r wlad beth yw eu gweledigaeth nhw.
“Mae gennym ni weledigaeth ar gyfer y wlad gyfan, a dyna pam rydyn ni’n gweithio mor galed i geisio sicrhau mwyafrif Ceidwadol.”
Pan ofynnwyd iddo gadarnhau felly bod hynny’n golygu nad oedd unrhyw opsiwn o glymbleidio yn cael ei ddiystyru gan ei blaid, ni roddodd Stephen Crabb ymateb pellach.
Pecyn ‘positif a hanesyddol’
Ategodd Stephen Crabb ei fod yn ystyried y cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi ar bwerau ychwanegol Cymru fel cam “hanesyddol”, gan amddiffyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i gynnig pwerau incwm mewn refferendwm.
Ychwanegodd hefyd mai 2015 oedd y flwyddyn yr oedd yn disgwyl gweld yr adferiad economaidd yn cael effaith ar bobl gyffredin yng Nghymru.
Wrth drafod y pecyn Dydd Gŵyl Dewi o bwerau ychwanegol i gael eu datganoli i Gymru a gyhoeddwyd, fe fynnodd Stephen Crabb fod y trafodaethau wedi bod yn “adeiladol” a “phositif” rhwng y pleidiau.
Pwysleisiodd y byddai pwy bynnag oedd yn llywodraethu yn San Steffan ar ôl 7 Mai yn gallu gwneud addasiadau pellach i’r cynlluniau, ond fod y pecyn yn cynnig isafswm o beth fydd yn cael ei ddatganoli.
“Dydw i ddim mor siomedig â hynny gyda’r ymateb, roeddwn i’n gwybod y byddai hynny’n debygol – rydyn ni’n delio â gwleidyddion wedi’r cwbl,” meddai Stephen Crabb.
“Ond y gwir yw ein bod ni wedi gweithio gyda’n gilydd, fe edrychon ni ar y pecyn yma o bwerau i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru, fe gytunon ni ar beth oedd yn edrych fel camau positif ymlaen i Gymru, roedd hi’n bwysig ein bod ni’n cyrraedd rhywle ar y mater o gyllido Cymru.
“Does dim o hynny’n diflannu – fe gawn nhw ymateb pa bynnag ffordd maen nhw eisiau, ond mae’r pecyn positif a hanesyddol yna i Gymru dal yn sefyll, dyna fydd sail beth fyddwn ni’n deddfwriaethu arno yn y senedd nesaf.
“Os oes pleidiau eraill yn y llywodraeth ac eisiau ychwanegu at hynny wedyn iawn, ond beth ddywedon ni ein bod ni eisiau gwneud oedd dod â phecyn at ei gilydd oedd yn cynrychioli’r llinell sylfaenol.
“Efallai y bydd pleidiau eraill yn dymuno ychwanegu ato, ond all neb gymryd pethau i ffwrdd ohono, rydyn ni i gyd wedi cytuno arno.”
Amddiffyn refferendwm
Un o’r pwerau fydd yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru fydd rheolaeth dros dreth incwm, ond dim ond ar ôl refferendwm ar y mater.
Mae Plaid Cymru ymysg y rheiny sydd wedi cwestiynu’r angen am refferendwm arall, gan bryderu ynglŷn â syrffed ymysg etholwyr yn ogystal â chodi’r pwynt fod rhannau o Loegr yn gweld datganoli heb refferendwm.
Cyfaddefodd Stephen Crabb fod ganddynt bwynt, ond mynnodd fod cynsail i’r refferendwm gan fod yr Alban wedi pleidleisio i gael pwerau tebyg yn 1999.
“Oes, mae dwy ochr i’r ddadl hon ac fe alla’i weld y ddwy ochr, pwynt Plaid Cymru oedd ‘arhoswch funud, os yw £6bn yn cael ei ddatganoli i Fanceinion …’,” meddai Stephen Crabb.
“Y gwahaniaeth gyda’r datganoli i Fanceinion yw’ch bod chi’n siarad am arian sydd eisoes o fewn system adrannol.
“Beth rydych chi’n siarad am gyda threth incwm yw egwyddor sylfaenol wahanol, a dyna pam gafodd pobl yr Alban gwestiwn refferendwm ar wahân eu hunain ar os oedden nhw eisiau pwerau treth incwm.
“Felly o ystyried hynny dw i dal yn credu ei fod e’n egwyddor gyfansoddiadol bwysig, ac felly dw i dal yn meddwl mwyaf tebyg mai cael refferendwm ar bwerau treth incwm yw’r peth iawn.”
Adferiad economaidd
Cyfaddefodd Ysgrifennydd Cymru fod ei blaid dal yn wynebu her wrth ddarbwyllo pobl fod yr economi yn gwella, gyda llawer o sôn o hyd nad oedd pobl gyffredin yn teimlo effaith yr adferiad economaidd.
Ond mynnodd mai 2015 oedd y flwyddyn y byddai pobl yn dechrau gweld mwy o arian yn eu pocedi, a bod tystiolaeth o hynny eisoes ar waith.
“Dw i wastad wedi bod yn glir – rydyn ni’n bod yn ofalus am sut rydyn ni’n siarad am yr adferiad economaidd,” meddai Stephen Crabb.
“Dyw adferiad economaidd ddim yn set theoretig o ffigyrau, mae e am sut mae pobl yn gweld ac yn teimlo hynny eu hunain.
“2014 oedd y flwyddyn pan ddechreuodd yr ystadegau a’r mesuryddion economaidd wella go iawn i Gymru.
“A dw i’n credu mai 2015 fydd y flwyddyn ble bydd pobl Cymru’n teimlo hynny yn eu pocedi, gyda phris petrol yn cwympo, cyfraddau llog ar eu hisaf sydd yn cadw morgeisi a phrisiau tai yn is, cyflogau yn codi yn uwch na chwyddiant, a newidiadau pwysig i drothwy treth incwm sydd yn dod i mewn ym mis Ebrill fydd yn dychwelyd arian i bocedi pobl.
“2015 fydd y flwyddyn y bydd pobl wir yn teimlo effaith yr adferiad economaidd. Ond rydych chi’n iawn, mae tipyn o ffordd i fynd, dydyn ni ddim yn hunanfodlon nac yn gorwedd ar ein rhwyfau yn y ffordd rydyn ni’n siarad am yr adferiad economaidd.”
Stori: Iolo Cheung