Terry Pratchett
Mae’r awdur Terry Pratchett wedi marw yn ei gartref yn 66 oed.
Fe gafodd rhai o’r 70 o’i lyfrau eu cyfieithu i’r Gymraeg, gan gynnwys Ar Drywydd y Duwiau, Lleidr Amser a Joni a’r Meirwon, ac fe fu’n siarad yn aml yng Ngŵyl y Gelli Gandryll.
Ei gyfres Discworld yw ei waith mwyaf adnabyddus.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cwmni cyhoeddi Transworld Publishing, Larry Finlay ei fod yn “drist iawn” o glywed y newyddion a bod y byd wedi colli “un o’r meddyliau fwyaf miniog a disglair”.
Roedd Terry Pratchett wedi bod yn dioddef o glefyd Alzheimer’s dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd ei asiant ei fod wedi marw yn ei gartref, gyda’i gath ar ei wely a’i deulu o’i amgylch.