Boy George a Martin Kemp, chwith yn cludo arch Steve Strange, gyda Steve Norman, dde
Roedd Boy George a Martin a Gary Kemp o grŵp Spandau Ballet ymysg y bobol ddaeth i ffarwelio a’r  canwr Steve Strange yn ei angladd ym Mhorthcawl heddiw.

Bu farw Steve Strange, oedd yn 55 oed ac yn wreiddiol o Drecelyn, fis diwethaf ar ôl cael trawiad ar y galon tra ar wyliau yn yr Aifft. Roedd yn adnabyddus am ei ganeuon Fade to Grey a In The Year 2525 gyda’r grwp Visage yn yr 80au.

Bu Boy George a Martin a Gary Kemp yn cludo’r arch liwgar i mewn i Eglwys All Saints ym Mhorthcawl ac roedd band jazz yn chwarae wrth i’r dyrfa lenwi’r eglwys.

Cafodd Fade To Grey ei chwarae dros system sain yn ddiweddarach.