Y tair merch ysgol ym maes awyr Gatwick wrth iddyn nhw deithio i Dwrci
Mae ysbïwr yn cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o roi cymorth i dair merch ysgol o Loegr i deithio i Syria er mwyn ymuno ag eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Yn ôl gweinidog tramor Twrci Mehmet Cavusoglu, mae’r ysbïwr yn gweithio i asiantaeth cudd-wybodaeth sy’n rhan o’r glymblaid Americanaidd gafodd ei sefydlu i frwydro yn erbyn IS.
Ni chafodd y wlad ei henwi ond fe ddywedodd Mehmet Cavusoglu nad yw’n rhan o’r UD neu’r Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth Shamima Begum, Amira Abase, ill dwy yn 15 oed, a Kadiza Sultana, 16 oed, cyd-ddisgyblion mewn ysgol yn Bethnal Green, Llundain, hedfan o faes awyr Gatwick i Istanbwl y mis diwethaf.
Yr ofnau yw eu bod yn Syria gyda gwrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) erbyn hyn.