Connor Marshall
Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth wedi i ddyn 18 oed farw yn yr ysbyty heddiw.
Bu farw Connor Marshall o’r Barri yn dilyn ymosodiad difrifol arno ym maes carafanau Bae Trecco ger Porthcawl fore Sul, 8 Mawrth.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd a’i gadw mewn uned gofal dwys lle bu mewn cyflwr difrifol iawn.
Er gwaethaf ymdrechion meddygon, bu farw heddiw.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley: “Roedd hwn yn ymosodiad creulon iawn ac o ganlyniad mae Connor wedi marw. Mae lle i gredu bod y person sy’n gyfrifol efallai wedi rhannu gwybodaeth a ffrindiau, perthnasau neu gymdogion ac rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.”
Dywed Parkdean, sy’n cynnal y maes carafanau ym Mae Trecco, eu bod nhw’n rhoi pob cymorth i helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliadau.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth ddigwyddodd ar 8 Mawrth ac mae’r heddlu’n gofyn i bobol gysylltu â nhw ar 101.