Prifysgol Aberystwyth
Mae disgwyl i fwy na 1,400 o ddisgyblion ddod  i ffair wyddoniaeth yn Aberystwyth  yr wythnos nesaf.

Cynhelir Ffair Wyddoniaeth flynyddol Prifysgol Aberystwyth ar 17, 18 a 19 Mawrth fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain  rhwng 13 a 22 Mawrth.

Bydd disgyblion ysgol o Geredigion, Powys a Gwynedd yn cael cyfle i ddefnyddio cyfres o arddangosfeydd gwyddonol rhyngweithiol yn y ffair sydd wedi ei threfnu gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiad Cymdeithasol  y Brifysgol.

Mae’r ffair, sy’n cael ei chynnal yn y Gawell Chwaraeon ar gampws Penglais, yn agored i ddisgyblion ysgol a’r cyhoedd. Y thema eleni yw ‘Gwyddoniaeth Brydeinig’.

Robotiaid

Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arddangosiadau a gweithgareddau, gan gynnwys cyfle i drin anifeiliaid, deall llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd, cwrdd â robotiaid a llu o stondinau cyffrous eraill sy’n cael eu trefnu gan fyfyrwyr.

Bydd dyfeisiadau ar gael i’r disgyblion fapio eu symudiadau o amgylch y neuadd, yn ogystal â helfa drysor.

‘Ysbrydoli’

Dywedodd Roger Morel, Swyddog Prosiect Gwyddoniaeth: “Nod y Ffair Wyddoniaeth yw arddangos y gwaith gwyddonol rhagorol sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r ardal gyfagos.

“Ei phwrpas yw ehangu gwybodaeth disgyblion ysgol a’r cyhoedd am  wyddoniaeth, eu hysbrydoli a dangos iddynt bwysigrwydd gwyddoniaeth yn ein bywydau.”

Dywedodd Debra Croft (Rheolwr CWPSI): “Ni allem wneud hyn heb frwdfrydedd, proffesiynoldeb a gwybodaeth yr Athrofeydd a’r Adrannau – y staff a’r myfyrwyr. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu dysgu a’u defnyddio gan ein myfyrwyr gyda’r gynulleidfa heriol hon o bobl ifanc yn ddigon o ryfeddod ac yn ddyfeisgar.”

Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd rhwng 9.30 y bore a 3 y prynhawn, a bydd sesiwn ychwanegol i aelodau o’r cyhoedd rhwng 4 a 6 brynhawn Mercher 18 Mawrth.