Fe fydd pump o ddynion yn ymddangos gerbron llys mewn perthynas ag achos o hiliaeth honedig ar y Metro ym Mharis ar Chwefror 17.

Dywedodd Heddlu Scotland Yard y bydd y pump yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Waltham Forest ar Fawrth 25 “yn ymwneud a chais gan yr heddlu am waharddiad rhag mynd i gemau pêl-droed.”

Cafodd dyn croenddu ei ffilmio yn cael ei wthio oddi ar y cerbyd gan gefnogwyr Chelsea ar noson eu gêm yn erbyn Paris Saint-Germain yng Nghynghrair y Pencampwyr yn y Parc des Princes.

Wrth wthio’r dyn oddi ar y trên, bloeddiodd y cefnogwyr gyfres o sylwadau a chaneuon hiliol.

Dywedodd llygad-dyst i’r digwyddiad ei fod yn “syfrdan” gan fod y dyn wedi cael ei wthio oddi ar y trên ddwywaith.

Ychwanegodd ei fod wedi clywed y cefnogwyr yn trafod “trywanu rhywun”.