Ched Evans
Does dim disgwyl i Ched Evans chwarae pêl-droed proffesiynol am o leiaf tymor arall, wrth i’w apêl yn erbyn dedfryd o dreisio barhau i gael ei archwilio.
Yn ôl yr Independent mae’n annhebygol y bydd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) yn dyfarnu ar ei achos tan ar ôl y Pasg o leiaf.
Hyd yn oed petai’r CCRC yn penderfynu bod achos i ailystyried y penderfyniad fyddai’r achos llys hwnnw ddim yn digwydd am rai misoedd, ac mae’n debyg fod Ched Evans wedi derbyn felly mai tymor 2016/17 yw’r cynharaf y gallai chwarae unwaith eto.
Cafodd y pêl-droediwr ei garcharu yn 2012 ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dynes mewn gwesty yn y Rhyl yn 2011, ac fe gafodd ei ryddhau ym mis Hydref y llynedd.
Ond mae wedi parhau i fynnu ei fod yn ddieuog, gan ddweud bod y ferch 19 oed wedi cydsynio i gael rhyw gydag ef.
Ystyried yr achos
Cafodd cais ei gyflwyno y llynedd gan dîm cyfreithiol Ched Evans i’r CCRC yn gofyn iddyn nhw ailystyried y dyfarniad, gan ddweud fod ganddynt dystiolaeth newydd yn ymwneud â’r achos.
Mae’r achos eisoes wedi cael ei flaenoriaethu gan y CCRC, er eu bod wedi pwysleisio nad yw hynny’n adlewyrchiad o gryfder yr achos.
Fe allai’r CCRC ddyfarnu bod angen anfon yr achos i’r Llys Apêl, ble byddai tri barnwr yn ailystyried y dyfarniad, neu fe allen nhw wrthod y cais.
Y trydydd opsiwn yw eu bod nhw’n gofyn am ragor o amser i edrych ar achos Ched Evans.
Dim ond 3% o’r achosion sydd yn cael eu cyflwyno i CCRC sydd yn cael eu hanfon i’r Llys Apêl i gael eu hailystyried, ond o’r rheiny sydd yn cael eu hanfon i’r Llys Apêl mae tua 70% o’r dyfarniadau yn cael eu gwyrdroi.
Dim clwb yn ei arwyddo
Cafodd Ched Evans ei ganfod yn euog o dreisio’r ddynes 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl yn 2011, ar ôl i’r rheithgor benderfynu fod y ferch yn rhy feddw i gydsynio i gael rhyw.
Roedd ffrind Ched Evans, Clayton MacDonald, hefyd wedi cael rhyw â’r ddynes yn y gwesty’r noson honno ond fe’i cafwyd ef yn ddieuog o’i threisio.
Ers cael ei ryddhau o’r carchar y llynedd mae Ched Evans, oedd wedi chwarae i Man City a Chymru yn y gorffennol, wedi ceisio ailafael yn ei yrfa bêl-droed.
Ond cafwyd gwrthwynebiad cryf i hynny gan ymgyrchwyr, gyda miloedd yn arwyddo deisebau yn galw ar glybiau i beidio â’i arwyddo.
Cafodd Ched Evans gynnig i ymarfer gyda’i gyn-glwb Sheffield United yn ogystal â chynnig cytundeb gan Oldham, ond fe dynnwyd y cynigion yna yn ôl yn sgil y pwysau cyhoeddus a bygythiadau gan noddwyr.
Dyw Ched Evans erioed wedi cyfaddef ei fod yn euog o dreisio’r ferch, a dim ond yn ddiweddar y mae wedi ymddiheuro wrth y ferch dan sylw am “effeithiau’r noson” honno.
Mae’r ferch hefyd wedi gorfod symud tŷ a newid ei henw bum gwaith oherwydd bod pobl wedi ei henwi hi ar gyfryngau cymdeithasol.
Ond mewn datganiad ym mis Ionawr fe fynnodd Ched Evans nad oedd y bobl hynny a enwodd hi yn gefnogwyr iddo ef, ac mai’r rheswm pam nad oedd wedi dweud unrhyw beth am yr achos yn gynt oedd oherwydd bob y broses apêl dal yn mynd yn ei flaen.