Mae cricedwr Albanaidd wedi cael ei anfon adref o Gwpan y Byd wedi iddo drydar neges oedd yn awgrymu ei fod e wedi cael ei ollwng o’r tîm cenedlaethol am resymau hiliol.

Doedd Majid Haq ddim wedi cael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Sri Lanca heddiw.

Mewn neges ar wefan Twitter, dywedodd Majid Haq: “Always tougher when you’re in the minority! #colour #race”.

Cafodd y neges ei dileu’n ddiweddarach, a dywedodd Bwrdd Criced yr Alban fod Haq wedi torri cod ymddygiad y tîm.

Ond dydyn nhw ddim wedi cynnig esboniad pellach.

Haq sydd ar frig rhestr y bowlwyr Albanaidd sydd wedi cipio’r nifer fwyaf o wicedi (258) yn hanes gemau undydd rhyngwladol.

Ond tair wiced yn unig mae’r bowliwr 32 oed wedi’u cipio yn ystod Cwpan y Byd, ac fe gafodd ei ddisodli gan Michael Leask yn y tîm.

Mae’r Alban wedi colli pob gêm hyd yn hyn, ac fe fyddan nhw’n herio Awstralia ddydd Sadwrn.