Mae wicedwr tîm criced Zimbabwe, Brendan Taylor wedi ymddiheuro wrth John Mooney, yn dilyn erthygl mewn papur newydd oedd yn rhoi manylion am frwydr y cricedwr Gwyddelig yn erbyn alcoholiaeth ac iselder.
Cafodd yr erthygl ei hysgrifennu i’r Zimbabwe Herald gan Robson Sharuko ddydd Llun.
Roedd yr erthygl yn dwyn y pennawd ‘Alcoholic dumps Zim out of WC’, ac roedd Sharuko wedi cyhuddo Mooney o gyffwrdd â’r ffin wrth ddal ei afael ar y bêl i gipio’r wiced fuddugol oedd yn golygu bod Zimbabwe allan o’r gystadleuaeth.
Roedd batiwr Zimbabwe, Sean Williams wedi sgorio 96 pan gollodd ei wiced i ddod â’r ornest i ben.
Roedd yr erthygl wedi cyfeirio at alcoholiaeth Mooney, a’r ffaith ei fod e wedi ystyried cyflawni hunanladdiad yn y gorffennol.
Mae Bwrdd Criced Iwerddon (CI) yn ystyried dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y papur newydd, ac maen nhw wedi cwyno wrth y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC).
Dywedodd prif weithredwr CI, Warren Deutrom fod y papur newydd yn euog o “gamgymeriad difrifol o ran barn olygyddol”.
Ychwanegodd fod yr erthygl yn “ymosodiad personol ffiaidd” ar Mooney.
Daeth ymddiheuriad gan wicedwr a chapten dros dro Zimbabwe, Brendan Taylor heddiw.
“Ar ran tîm criced Zimbabwe, hoffem ymddiheuro wrth @Irelandcricket a John Mooney am yr erthygl annerbyniol,” meddai ar Twitter.
Yn y gorffennol, mae John Mooney wedi trafod ei alcoholiaeth a’i iselder yn gyhoeddus er mwyn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.