Mae cyn brif arolygydd Mwslimaidd wedi dweud fod strategaeth atal radicaleiddio Llywodraeth y DU yn “frand gwenwynig”.

Roedd Dal Babu  yn brif arolygydd gyda’r Heddlu Metropolitan cyn iddo ymddeol ddwy flynedd yn ôl. Dywedodd wrth y BBC fod y rhan fwyaf o Fwslimiaid yn amheus o’r cynllun ac yn ei weld fel ymdrech i ysbïo arnyn nhw.

Mae’r strategaeth wedi dod o dan y lach ar ôl i gannoedd o Brydeinwyr, gan gynnwys tair o ferched ysgol, deithio i Syria i ymladd ochr yn ochr â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Nawr, mae Dal Babu yn  galw ar y Llywodraeth i ddod o hyd i “strategaeth gydlynol” i amddiffyn pobl ifanc sy’n agored i niwed rhag cael eu radicaleiddio gan  IS.

Dywedodd hefyd fod “diffyg gwybodaeth” o fewn yr heddlu am faterion hil a ffydd, gan ychwanegu nad yw’n syniad da gadael i swyddogion iau weithredu’r strategaeth.

Y llynedd datgelwyd bod swyddogion gwrthderfysgaeth wedi derbyn 77 o adroddiadau gan deuluoedd trwy strategaeth y Llywodraeth.