Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn pwysleisio’r angen i ddiwygio hyfforddiant athrawon yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn dadlau fod diwygio’r hyfforddiant yn gwbl allweddol er mwyn codi safonau.
Cafodd adroddiad ‘Addysgu Athrawon Yfory’ ei gyhoeddi gan yr Athro John Furlong ar ran Llywodraeth Cymru. Cafodd yr Athro Furlong ei benodi’n Gynghorydd Cymru ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon y llynedd.
Yn yr adroddiad mae’r Athro Furlong yn disgrifio cyfres o opsiynau ar gyfer newid ynghyd â naw o argymhellion allweddol.
Codi safonau
Mae’r rhain yn cynnwys codi safonau ar gyfer athrawon newydd, gwella capasiti ymchwil, sefydlu ‘Bwrdd Achredu Addysg Athrawon’ o fewn Cyngor y Gweithlu Addysg a diwygio Canllawiau Estyn fel bod arolygiadau ysgolion yn cydnabod cyfraniad ysgolion at hyfforddiant athrawon.
Mae’r Athro Furlong hefyd yn argymell graddau hyfforddiant athrawon lle y byddai myfyrwyr yn treulio 50% o’u hamser mewn adrannau ysgolion sy’n arbenigo yn eu prif bwnc.
Mae hefyd yn credu y dylai effaith y cymhellion ariannol sy’n ceisio denu graddedigion disglair i’r proffesiwn addysg gael ei monitro ac y dylid ystyried y syniad o gyllido Sefydliadau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon drwy broses dendro gystadleuol.
‘Cyflawni uchelgeisiau’
Dywedodd yr Athro Furlong: “Wrth lunio’r adroddiad hwn rwyf wedi casglu llawer iawn o dystiolaeth am gryfderau a gwendidau presennol hyfforddiant athrawon yng Nghymru.
“Os bydd Llywodraeth Cymru, asiantaethau cenedlaethol, ysgolion ac addysg uwch oll yn cydweithio ar hyn bydd modd i ni gyflawni addysg a hyfforddiant athrawon y gallwn oll ymfalchïo ynddo – ac a fydd yn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ein plant a phobl ifanc.”
‘Ystyried opsiynau’
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: “Mae’r achos dros newid yn gryf iawn. Os ydym yn awyddus i godi safonau mae’n amlwg fod yn rhaid i ni ddatblygu ymarferwyr myfyriol sydd newydd gymhwyso ac sydd â’r cymwysterau, y sgiliau a’r cydnerthedd i gefnogi’r newidiadau i’r cwricwlwm a gaiff eu hargymell gan yr Athro Donaldson yn ei adroddiad diweddar.
“Mae’n rhaid i ni fynd ati yn awr i ystyried yr opsiynau ar gyfer diwygio a’r dulliau gweithredu mewn rhagor o fanylder. Bydd gofyn sicrhau bod y sector hyfforddi athrawon yn chwarae rhan lawn yn y broses hon.”
‘Dim digon da’
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Angela Burns AC, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, fod “consensws” nad yw hyfforddiant athrawon yng Nghymru yn ddigon da i godi’r safonau ymysg plant a phobl ifanc.
Meddai: “Sut allwn ni ddisgwyl i athrawon feithrin potensial eu dosbarth ac ymestyn pob plentyn os na allwn ni wneud yr un peth ar gyfer athrawon?
“Mae’n rhaid i Weinidogion Llafur ystyried yr argymhellion hyn ac yna gweithredu i wella hyfforddiant athrawon, buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus a lleihau biwrocratiaeth fel bod athrawon yn rhydd i dreulio mwy o amser yn dysgu.”