Rhodri Miller ac Alesha O'Connor
Bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal heddiw i gofio am y rhai fu farw mewn damwain rhwng dau gar ar yr A470 ym Mhowys nos Wener.

Dywedodd Ysgol Bro Morgannwg y byddan nhw hefyd yn cynnig help a chefnogaeth ychwanegol i’w disgyblion heddiw wedi i dri o’u cyfoedion gael eu lladd yn y ddamwain

Cafodd tri o bobl ifanc 17 oed a dynes 68 oed eu lladd yn y gwrthdrawiad angheuol yn Storey Arms ger Aberhonddu am 10.15yh nos Wener.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r tri o bobl ifanc gafodd eu lladd. Roedd Rhodri Miller, Corey Price a Alesha O’Connor, y tri o’r Barri, yn teithio yn yr un cerbyd pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cafodd Margaret Challis, 68, o ardal Merthyr Tudful, ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae dau o bobl eraill yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.


Corey Price
‘Talentog’

Roedd Corey Price yn bêl-droediwr ifanc addawol oedd wedi hyfforddi gydag Academi Pêl-droed Caerdydd.

Dywedodd Dylan Jones, pennaeth Ysgol Bro Morgannwg yn y Barri, bod y  ddau fachgen yn dalentog yn eu ffordd eu hunain – Corey Price gyda phêl-droed a Rhodri Miller mewn gwyddoniaeth.

Dywedodd Paul a Sharon O’Connor, rhieni Alesha O’Connor, bod eu merch yn “blentyn cariadus” ac yn “dywysoges hardd”.

Dywedodd yr ysgol ar ei gwefan y byddai gwasanaethau’r bore ma yn myfyrio ar yr hyn oedd wedi digwydd, yn ogystal â rhoi cyfle i ddisgyblion dderbyn cymorth a chefnogaeth bellach.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod pum bachgen ifanc, 17 a 18 oed, oedd yn gyrru cerbydau eraill, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus. Maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Mae’r heddlu’n credu bod nifer o geir wedi bod yn teithio gyda’i gilydd mewn confoi pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.