Rhys Meirion
Mae trefnwyr taith gerdded Cerddwn Ymlaen wedi gohirio taith i Batagonia oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch.

Roedd disgwyl i 150 o bobol o Gymru fynd i’r Wladfa am ddeg diwrnod er mwyn dilyn yn ôl traed y Cymry cyntaf i ddarganfod Cwm Hyfryd yn 1885.

Ond wedi i’r trefnwyr ystyried y cynlluniau a gafodd eu cynnig iddyn nhw’r llynedd, doedden nhw ddim wedi derbyn sicrwydd fod y cyfan yn ddiogel er mwyn iddyn nhw gynnal y daith.

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw wedi derbyn croeso cynnes gan bobol Esquel a Threvelin a’u bod yn awyddus i gynnal y daith fis Tachwedd 2016.

Yn y cyfamser, bydd Loteri yn cael ei threfnu a’i lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ym mis Awst, er mwyn cefnogi addysg Gymraeg yng Nghwm Hyfryd, gyda’r nod o alluogi athrawon o Gymru i fynd i’r Wladfa i ddysgu yn Ysgol y Cwm.

Ymddiheuro

Dywedodd y trefnydd Eryl Vaughan a’r Prif Gerddwr Rhys Meirion mewn datganiad eu bod nhw wedi derbyn croeso cynnes gan bobol Esquel a Threvelin a’u bod yn awyddus i gynnal y daith fis Tachwedd 2016:

“Hoffwn ymddiheuro i bawb am achosi unrhyw anghyfleustra ac am y siom amlwg, ond rydym hefyd am ddiolch i bawb am y diddordeb sylweddol a ddangoswyd yn y fenter.

“Tra roedd tirlun Patagonia yn odidog roeddwn hefyd wedi darganfod nifer o broblemau, yn bennaf ynglŷn â threfniadau iechyd a diogelwch.

“Er i ni fod mewn trafodaethau manwl yn y cyfamser, nid ydym wedi derbyn y sicrwydd yr oeddem ei angen ynglŷn â’r materion yma ac ni allwn felly barhau gyda’r cynlluniau yn ddiogel o’r herwydd.”

Loteri

Yn y cyfamser, bydd Loteri yn cael ei threfnu a’i lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ym mis Awst, er mwyn cefnogi addysg Gymraeg yng Nghwm Hyfryd, gyda’r nod o alluogi athrawon o Gymru i fynd i’r Wladfa i ddysgu yn Ysgol y Cwm.

Roedd y daith yn rhan o ymgyrch elusennol y canwr Rhys Meirion gyda’r arian a godwyd  yn mynd i Gronfa Elen, i gefnogi rhoi organau yng Nghymru, ac i Ysgol Gymraeg yr Andes ym Mhatagonia.