Dywed un o gyn-gadeiryddion y Blaid Geidwadol y gall fod angen clymblaid rhwng y Torïaid a’r Blaid Lafur yn San Steffan ar ôl yr etholiad ym mis Mai.
Efallai mai dyna fydd yr unig ffordd o gynnal undod y Deyrnas Unedig a rhwystro’r SNP rhag dal cydbwysedd grym, yn ôl yr Arglwydd [Kenneth] Baker o Dorking, a fu’n ysgrifennydd addysg ac yn ysgrifennydd cartref o dan lywodraethau Margaret Thatcher a John Major.
Dywed y byddai cytundeb o’r fath yn osgoi’r ‘hunllef’ o lywodraeth Lafur leiafrifol a fyddai’n dibynnu ar gefnogaeth yr SNP i lywodraethu.
“Yr hyn sydd mewn perygl yw parhad undod y Deyrnas Unedig,” meddai. “Er mwyn diogelu’r undod hwnnw rhaid cael hyd i ffordd arall.
“Byddai’n bosibl i lywodraeth ar y cyd rhwng y pleidiau Llafur a Cheidwadol gael hyd i bethau y maen nhw’n cytuno arnyn nhw – amddiffyn, gwrth-derfysgaeth, buddsoddi mewn ysgolion, ffyrdd, rheilffyrdd a diwygio hyfforddiant sgiliau ac ynni.”
Comisiwn Cyfansoddiadol
Dywed yr Arglwydd Baker mai prif ddiben llywodraeth glymblaid o’r fath fyddai sefydlu Comisiwn Cyfansoddiadol a fyddai’n cynnwys Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn ogystal â’r Alban.
“Y bwriad fyddai cadw’r Deyrnas Unedig a sicrhau bod datganoli’n digwydd mewn ffordd drefnus, teg, cyson ac ystyrlon,” meddai. “Rhaid iddo beidio â digwydd trwy gyfres o fesurau tameidiog yn cael eu gyrru gan un rhan o’r Deyrnas Unedig, nad yw eu canlyniadau wedi cael eu hystyried yn drwyadl.”
Llafur yn gwrthod y syniad
Mae arweinydd Llafur yn yr Alban, Jim Murphy, wedi diystyru’r syniad o glymblaid gyda’r Torïaid fel rhywbeth ‘chwerthinllyd’.
“Does gen i ddim eisiau gwersi gan ddinosoriaid Torïaidd ar sut i redeg yr Alban,” meddai. “Am syniad cwbl chwerthinllyd. Nid fydd byth yn digwydd.”