Mae’r darlledwyr wedi mynnu y byddan nhw’n bwrw ymlaen â’u cynlluniau i gynnal tair dadl deledu cyn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai, er gwaethaf protestiadau’r Prif Weinidog David Cameron.
Dywedodd David Cameron yr wythnos hon nad oedd e’n hapus gyda’r ffordd yr oedd y dadleuon wedi cael eu trefnu, gan roi ‘cynnig olaf’ i’r darlledwyr o gynnal un ddadl gyda saith plaid.
Ond fe gyhuddodd y pleidiau eraill y Prif Weinidog o fod yn llwfr a cheisio dianc rhag y dadleuon, a heddiw mae’n ymddangos fod y darlledwyr am ddal eu tir.
Tair dadl
Yn ôl cynlluniau’r darlledwyr fe fydd tair dadl deledu yn cael ei chynnal rhwng arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain cyn yr etholiad.
Byddai’r ddwy ddadl gyntaf, ar ITV ar 2 Ebrill a’r BBC ar 16 Ebrill, yn cynnwys arweinwyr saith plaid – y Ceidwadwyr, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, SNP, Plaid Cymru a’r Gwyrddion.
Yna fe fyddai’r drydedd ddadl ar Sky a Channel 4, ar 30 Ebrill, yn cynnwys David Cameron a’r arweinydd Llafur Ed Miliband yn unig, gan mai nhw yw’r ddau sydd yn debygol o gystadlu i fod yn Brif Weinidog.
Yr wythnos hon fe ddywedodd David Cameron mai dim ond un ddadl deledu rhwng saith plaid yr oedd e’n fodlon cymryd rhan ynddi, gan fynnu fod y broses wedi mynd yn rhy gymhleth a’i fod yn ceisio symleiddio pethau.
Ond y cyhuddiad o du’r pleidiau eraill yw bod y Prif Weinidog yn ceisio osgoi cynnal y dadleuon teledu gan y byddai hynny’n rhoi cyfle i bleidiau eraill ymosod ar record y llywodraeth.
Podiwm gwag?
Os yw’r darlledwyr yn glynu wrth eu cynlluniau, a David Cameron yn gwrthod ildio chwaith, fe allai hynny olygu sefyllfa ble mae podiwm wag yn cael ei adael yn lle cael y Prif Weinidog yno.
Ond heddiw mewn datganiad fe ofynnodd y darlledwyr i arweinydd y blaid Geidwadol ailystyried.
“Fe fyddai’r darlledwyr yn hoffi petai’r prif weinidog yn ailystyried cymryd rhan ym mhob un o’r dadleuon hyn,” meddai’r datganiad.
“Fe wyliodd 22miliwn o bobl y dadleuon rhwng yr arweinwyr yn 2010 ac mae’r cyhoedd yn awyddus ac yn disgwyl iddyn nhw ddigwydd eto yn 2015.
“Mae cynigion y darlledwyr wedi dod ar ôl gwaith trylwyr dros y chwe mis diwethaf i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y cyfle i wylio dadleuon etholiadol ar y teledu unwaith eto.