Mae gan Blaid Cymru gyfle i sicrhau ei bod “wrth galon penderfyniadau” yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, meddai arweinydd y blaid wrth ei chynhadledd.

Addawodd Leanne Wood “gydraddoldeb” i’r Cynulliad gyda phob Senedd arall yn y Deyrnas Unedig pe bai hi’n dal balans pŵer ar ôl Mai 7fed. Fe fyddai ei phlaid yn cynnig bil newydd yn seiliedig ar yr egwyddor honno.

Os na fyddai hynny’n digwydd, meddai, fe fydd Plaid Cymru’n parhau i bleidleisio ar faterion Saesnig yn San Steffan.

Ychwanegodd hi hefyd bod y “arbrawf llymder wedi methu” ac y bydd y cenedlaetholwyr yn “gorffen hynny”.

Senedd grog

Dywedodd Leanne Wood: “Gyda Senedd grog arall ar y gorwel, mi all Cymru fod yng nghanol y canlyniad. Mae gennym gyfle i sicrhau fod Cymru wrth galon y penderfyniadau ar ôl y 7fed o Fai.

“A gadewch i bobol Cymru fod yn glir: mae sicrhau bod anghenion ein cymunedau a’n cenedl ar yr agenda yn eu dwylo nhw.”

Dywedodd mai Plaid Cymru yw’r “dewis amgen” i “gonsensws” San Steffan.

“Ry’n ni fel dewis arall eisiau sicrhau ail-gydbwyso pŵer a chyfoeth o blaid pobol ym mhob cymuned,” meddai.

Dim pleidlais gyhoeddus ar drethi

Cadarnhaodd Leanne Wood hefyd nad oedd ei phlaid yn cytuno y dylai yna fod pleidlais gyhoeddus ar ddatganoli pwerau dros drethi.

“Heddiw, rwy’n tynnu’n ôl o gytundeb Plaid Cymru i gytuno ar refferendwm ar bwerau treth incwm,” meddai. “Ni ddylai unrhyw lywodraeth gael dewis ynghylch y dylai hi fod yn atebol o’r arian mae hi’n wario.”

Ychwanegodd y byddai ei phlaid yn dyblu ardoll (levy) ar fancwyr i godi “£2.8 biliwn y flwyddyn”.

“Mae’r ciwiau i fanciau bwyd yn tyfu o ganlyniad i gamgymeriadau gan fancwyr felly mae’n rhaid i’r banciau gyfrannu i greu cymunedau yn dilyn llymder,” meddai.