Yr Old Bailey
Mae mam wnaeth gam-drin, arteithio a lladd ei merch wyth oed, tra dan ddylanwad ei chariad lesbian, wedi ei charcharu am 13 mlynedd.
Cafwyd Polly Chowdhury, 35, a Kiki Muddar, 43, yn euog o ddynladdiad merch Chowdhury, Ayesha Ali.
Daethpwyd o hyd i gorff y ferch yn eu cartref yn nwyrain Llundain, gyda thros 40 o anafiadau arno gan gynnwys olion brathiadau ac olion llosg carped.
Clywodd lys yr Old Bailey fod Muddar wedi creu byd ffantasi ar Facebook ac wedi anfon negeseuon tecst i hudo Chowdhury a’i throi yn erbyn ei merch. Roedd Muddar yn ystyried bod y ferch yn fygythiad i’w pherthynas gyda’r fam.
Dywedodd y Barnwr Christopher Moss mae Mudder oedd yn bennaf gyfrifol am farwolaeth Ayesha, ac fe’i carcharwyd am 18 mlynedd.