Edwina Hart
Mae Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod y contract ar gyfer y gwasanaeth tren cyflym o’r Gogledd i’r De wedi’i gadw am dair mlynedd arall.
Mae’r gwasanaeth o’r enw Y Gerallt Gymro, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i redeg ar yr un amser, gan gynnig amseroedd teithio llai, heb ddosbarth busnes a chyfleusterau bwyty ar y trenau safonol.
Bydd y contract newydd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau hyd at ddiwedd masnachfraint bresennol Cymru a’r Gororau ym mis Hydref 2018.
Meddai’r Gweinidog: “Rwyf wedi ymrwymo i wella amseroedd teithio a chysylltiadau rhwng Gogledd a De Cymru i hybu twf economaidd. Mae gwasanaeth y tren cyflym wedi bod yn boblogaidd i deithwyr busnes a bydd y contract hwn yn sicrhau ei fod yn parhau hyd at ddiwedd y fasnachfraint bresennol. Rydym yn gweithio’n barhaus i wella’r gwasanaeth hwn, gan gynnwys cyflwyno dosbarth busnes newydd a buddsoddi yn y seilwaith trenau i dorri mwy ar amseroedd teithio.”
Amserlen
Mae’r gwasanaeth cyflym o’r Gogledd i’r De ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan adael Caergybi am 05:33 a chyrraedd Caerdydd Canolog am 09:58, a dychwelyd am 17:16, gan gyrraedd Caergybi am 21:45, a theithio drwy Wrecsam a Chaer.