Mae Nick Clegg yn barod i gymryd lle David Cameron yn y ddadl deledu yn erbyn Ed Miliband, os y bydd y Prif Weinidog yn gwrthod cymryd rhan.
Dyna y mae ymgyrch etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i gadarnhau heddiw.
Mae David Cameron wedi’i gyhuddo o geisio “bwlian” y cwmniau darlledu, wedi iddo wrthod mynd ben-ben ag arweinydd Llafur mewn dadl deledu.
Mae Stryd Downing wedi gwneud “cynnig olaf” i’r darlledwyr neithiwr, gan ddweud fod David Cameron yn fodlon cymryd rhan mewn dadl sy’n cynnwys saith o arweinwyr pleidiau.
Heddiw, mae cadeirydd ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol, yr Arglwydd Ashdown, wedi dweud fod Nick Clegg yn fwy na bodlon cymryd lle David Cameron yn y ddadl a fyddai i’w chynnal gan Sky News a Channel 4 ar Ebrill 30 – wythnos union cyn yr etholiad ar Fai 7.