Mae cartre’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Harvey Proctor, yn cael ei chwilio gan heddlu sy’n ymchwilio i honiadau hanesyddol o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae ditectifs Heddlu’r Met yn chwilio’r ty ger Grantham yn Sir Gaerlyr fel rhan o Ymgyrch Midland.
Mae Harvey Proctor, 68, yn gweithio i Ddug a Duges Rutland.
Mae llefarydd ar ran Heddlu’r Met wedi cadarnhau bod “swyddogion o Ymgyrch Midland wrthi’n chwilio cyfeiriad yn Grantham am hyn o bryd, mewn cysylltiad â’r ymchwiliad”.