A hithau’n Ddiwrnod y Llyfr heddiw, mae ymgyrch wedi’i lansio sy’n gofyn i ddarllenwyr Cymru enwebu’r llyfrau maen nhw’n ystyried i fod yn “glasuron”.

Y bwriad – yn ôl Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru sydd y tu ôl i’r ymgyrch – yw annog mwy o bobol i ddarllen ac i gofio am y cyfoeth o lenyddiaeth, Cymraeg a Saesneg, sydd ar gael.

Wedi i banel o arbenigwyr a beirniaid llên benderfynu ar y rhestr derfynol, bydd y llyfrau yn cael eu dosbarthu i lyfrgelloedd, siopau llyfrau a cholegau.

Mae gofyn i unrhyw un sy’n enwebu llyfr roi esboniadau am eu dewis, gyda gwobr o bryd o fwyd mewn bwyty moethus yng Nghymru a £50 ar gael i’r enillydd.

Ennyn trafodaeth

“Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus ystod o lenyddiaeth o safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg i gynnig i ddarllenwyr,” meddai Jane Sellwood ar ran Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru.

“Bydd paratoi rhestr o’r fath gyda chymorth darllenwyr yn hybu darllen, ennyn trafodaeth ar beth yw ‘clasur’ ac awgrymu deunydd i ddarllenwyr ‘newydd’. Bydd llyfrgelloedd trwy Gymru yn barod i gasglu enwebiadau darllenwyr i gefnogi’r ymgyrch cyffrous hwn.”

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: ”Tra bod y Cyngor yn cefnogi a hyrwyddo gwaith awduron cyfoes mae hi bob amser yn bwysig i ni hefyd gofio am y clasuron sy’n cael eu darllen a’u mwynhau gan do ar ôl to o ddarllenwyr.

Bydd yr ymgyrch yn para hyd 30 Mai.