Becky Watts
Fe fydd llysfrawd y ferch 16 oed, Becky Watts, a ddiflannodd o’i chartref ym Mryste fwy nag wythnos yn ôl yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o’i llofruddio.

Cafodd Nathan Matthews, 28 oed, ynghyd â’i bartner, Shauna Hoare, 21, eu harestio a’u cyhuddo ddoe.

Mae Shauna Hoare yn cael ei chyhuddo o fwriad i wrthdroi cwrs cyfiawnder ac mae pedwar dyn a dynes arall yn eu hugeiniau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Echdoe, fe gyhoeddodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod wedi dod o hyd i ddarnau o gorff mewn tŷ yn y ddinas wrth chwilio am Becky Watts.

Dyw’r ferch ysgol ddim wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref yn ardal St George o Fryste ar 29 Chwefror.