Mae beth bynnag 32 o bobol wedi’u lladd yn dilyn ffrwydriad mewn pwll glo yn nwyrain Wcrain. Mae un gweithiwr yn parhau ar goll.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad cyn toriad gwawr ddoe, dros 3,200 troedfedd dan ddaear ym mhwll Zasyadko yn Donetsk, lle mae brwydro ffyrnig wedi bod ers bron i flwyddyn rhwng lluoedd yr Wcrain a gwrthryfelwyr a chefnogaeth Rwsia.

Roedd 230 o ddynion wrth eu gwaith yn y pwll ar y pryd, a’r gred yw mai cymysgedd o nwy methan ac aer a achosodd y ffrwydiad. Doedd dim cysylltiad rhwng y digwyddiad a’r ymladd yn yr ardal.

Mae gan bwll Zasyadko hanes o ddamweiniau angheuol. Fe fu un yno ym mis Tachwedd 2007, pan laddwyd 101 o weithwyr; ac eto wedyn fis yn ddiweddarach pan laddwyd 57.