Fe fydd y cwmni hedfan, Flybe, yn agor canolfan newydd yng Nghaerdydd eleni, gan greu 50 o swyddi.

O fis Mehefin ymlaen, fe fydd Flybe yn cynnig hediadau o Faes Awyr Caerdydd i 11 o lefydd, yn cynnwys Belffast, Corc, Dulyn, Caeredin, Glasgow a Jersey.

Fe fydd hefyd yn hedfan o Gaerdydd i Dusseldorf, Faro, Munich, Milan a Paris.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae hyn yn newyddion ffantastig.”