Mae mwy o gleifion yn gorfod aros yn hwy na 15 munud mewn ambiwlans y tu allan i ysbyty cyn cael gwely, yn ôl ffigyrau diweddaraf Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mewn dogfen gafodd ei gyflwyno i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad, dangoswyd bod bron ambiwlansys wedi gorfod disgwyl am tua 40,000 o oriau yn 2014 o ganlyniad i “oediadau trosglwyddo”.
Roedd hyn o’i gymharu â’r 8,000 o oriau gafodd eu colli yn 2008 – gyda phob awr yn costio tua £76 i’r gwasanaeth.
Diffyg gwelyau mewn unedau sy’n aml yn achosi’r oedi ac mae’r gwasanaeth ambiwlans yn pryderu fod y broblem yn “peri risg” gan fod yr oedi y tu allan i ysbytai yn golygu na all yr ambiwlans ymateb i alwadau eraill.
Oedi
Mae achosion wedi cael eu cofnodi lle’r oedd rhaid i gleifion aros dros bum awr i gael eu trosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam..
Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bod yr oedi yn cyfrannu at y problemau mae’r gwasanaeth yn ei wynebu yn ei amseroedd ymateb, sydd hefyd yn deillio o gynnydd yn y galw am ofal brys, ynghyd ac absenoldeb o fewn y gwasanaeth.
Cyn y cyfarfod, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n disgwyl i gleifion gael eu trosglwyddo mewn modd amserol. Dylai byrddau iechyd gymryd cyfrifoldeb am leihau’r oedi mewn trosglwyddo. Rydym ni yn parhau i wylio’r sefyllfa yn ofalus.”