Becky Watts (Llun Heddlu)
Mae dau o bobol wedi cael eu cyhuddo ynglŷn â marwolaeth Becky Watts, 16 oed, o Fryste.

Mae ei llysfrawd Nathan Matthews, 28, wedi’i gyhuddo o’i llofruddio, a’i gariad, Shauna Hoare, 21 oed, wedi’i chyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd y ddau, sydd wedi’u cadw yn y ddalfa, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Bryste yfory.

Mae pedwar dyn a dynes a gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr yn parhau yn y ddalfa hefyd.