Fe fydd y drefn o reoli ardaloedd swyddogol o harddwch arbennig yn cael ei symleiddio.

Fe allai Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gael enw newydd a’u rhoi ar yr un lefel ac i rannu’r un prif amcanion â’r Parciau Cenedlaethol.

Dyna argymhellion o adolygiad o’r Parciau a’r AHNEau ac, er y gallen nhw newid eto, fe fyddan nhw’n sail ar y dyfodol.

Cam cynta

Dyma’r cam cynta’ o ddau i newid sut y mae’r ardaloedd yn cael eu rheoli, meddai’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, wrth gyhoeddi’r broses a manylion yr adolygiad cynta’.

Tirweddau Cenedlaethol Cymru fyddai’r enw newydd ar yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn ôl yr adolygiad.

Ac, yn ôl argymhellion y panel adolygu fe fyddai gan yr ardaloedd arbennig i gyd dri nod statudol:

  • Gwarchod a gwella’r dirwedd.
  • Cyfrannu at iechyd meddwl a chorff pobol trwy eu helpu i fwynhau a deall y tirweddau.
  • Hybu ffyrdd cynaliadwy o reoli natur, economi a chmuned er mwyn cefnogi ‘treftadaeth ddiwylliannol’ yr ardaloedd.

Y camau nesa’

Y cam nesa’ fydd ystyried sut y bydd y cyrff yn cydweithio a sut mae gwneud penderfyniadau’n fwy lleol ac atebol.

Ond mae Carl Sargeant yn dweud ei fod wedi ymrwymo i gefnogi’r tri Pharc a’r pump AHNE.

“Mae’r ardaloedd hyn yn werthfawr, yn rhan annatod o’n hunaniaeth fel gwlad,” meddai.

“Mae’n rhaid eu diwygio i sicrhau eu bod yn ffynnu, trwy barhau i’w hamddiffyn ond gan sicrhau hefyd bod pobol Cymru yn cael y gorau ohonyn nhw.”