Stanley Evans (Gwifren PA)
Mae pensiynwr 93 oed o Gymru wedi dweud na fydd yn medru maddau i ddyn 29 oed a oedd wedi ymosod arno a dwyn £5 mewn lladrad ger ei gartref.
Roedd Stanley Evans sy’n wreiddiol o Aberteifi yn sefyll yn y fynedfa i’w floc fflatiau yn Soho yng nghanol Llundain pan ddaeth Soloman Bygraves i gwrdd ag e a’i wthio i’r llawr.
Fe fu’n gorwedd yno am tua pum munud cyn medru galw 999 ac, yn awr, mae wedi galw ar i’r lleidr gael ei anfon i’r carchar.
Euog
Heddiw, fe blediodd Soloman Bygraves yn euog i’r drosedd trwy gyswllt fideo mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Southwark.
“I berson ymosod ar berson hŷn fel fi, mae’n haeddu mynd i’r carchar. Doeddwn i ddim yn gallu fy amddiffyn fy hun ac fe wnaeth e gymryd mantais o hynny,” meddai Stanley Evans.
“Dw i ddim yn gwybod beth yw ei gefndir, ond alla i ddim maddau iddo am ymosod ar berson hŷn.”
Fe fydd Soloman Bygraves yn cael ei ddedfrydu ar 13 Ebrill.