Tren yn y Cymoedd - cynlluniau yno, ond dim yn y Gorllewin
Mae Network Rail wedi anghofio am bobol sy’n byw rhwng Bangor a’r Cymoedd wrth lunio cynlluniau newydd ar gyfer rheilffyrdd Cymru, yn ol grwp ymgyrchu Traws Link Cymru.

Er bod y cwmni trenau wedi dweud bod y cynlluniau am effeithio ar bawb yn y wlad, dydyn nhw ddim yn mynd yn ddigon pell nac yn yn dangos “unrhyw uchelgais i’r genedl”, yn ol Mike Parker.

Mae’r mudiad yn arbennig o siomedig am nad yw’r cynlluniau, sy’n cynnig nifer o syniadau ar gyfer gwella’r rhwydwaith, yn sôn o gwbl am ailagor rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Fe fyddai angen llawer rhagor o waith ar werth busnes y syniad cyn dechrau ei ystyried o ddifri, meddai Pennaeteh Strategaeth a Chynllunio Network Rail Cymru, Tim James y bore yma.

‘Bwlch mawr’

“Mae’r cwmni’n dweud bod rhywbeth yn y cynlluniau i bawb yng Nghymru, ond os ydych chi’n byw rhwng Bangor a’r Cymoedd dyw hynny ddim yn wir,” meddai Mike Parker, sydd hefyd yn ymgeisydd ar ran Plaid Cymru yng Ngheredigion yn etholiadau nesaf San Steffan.

“Mae yna fwlch mawr rhwng y Gogledd a’r De ac mae gwir angen ail-agor rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, ond does dim son am hynny yn y cynlluniau.

“Mae’n nhw’n fwy o’r un peth i ddweud y gwir, does dim uchelgais ac mae’n siomedig.”

Ail-gysylltu Cymru

Mae gwagle rhwng rheilffyrdd y gogledd a’r de yn golygu bod holl economi Cymru wedi’i selio ar gysylltiadau o’r Gorllewin i’r Dwyrain ac mae hynny, meddai Mike Parker, yn broblem hanesyddol.

“Byddai mwy o bwyslais ar y Gorllewin wedi llenwi’r bwlch ac wedi ail-gysylltu Cymru,” meddai.

“Fe fyddai’r syniad o ail-agor rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn gwneud mwy na rhoi budd i bobol leol – fe fyddai’n ail-gysylltu yr holl genedl.

‘Cynnydd’

“Mae nifer y bobol sy’n defnyddio trenau yng Nghymru wedi codi 50% ers 2004 – mae’n amlwg iawn bod pobol eisiau defnyddio’r rheilffyrdd.

“Mae tair prifysgol ar y lein Caerfyrddin/Aberystwyth ac fe fyddai cael trenau yn rhegeg yn codi nifer y myfyrwyr sydd eisiau dod i astudio yng Nghymru ac aros yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd mae’r rheilffordd yn enghraifft o economi lle mae popeth yn mynd i’r Dwyrain o’r Gorllewin, a dyna’r broblem hanesyddol yng Nghymru.”

Mae Network Rail hefyd yn disgwyl cynnydd mawr mewn defnydd o drenau yng Nghymru yn ystod 30 mlynedd y cynlluniau – gyda nifer y teithwyr sy’n mynd a dod o brif orsaf Caerdydd yn codi o 16 miliwn i 33 miliwn erbyn 203.