Elfyn Llwyd
Mae angen Mesur Hawliau yn arbennig ar gyfer pobol sy’n diodde’ oherwydd troseddau,  meddai arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin.

Fe fyddai hynny’n rhoi dyletswydd ar y system gyfiawnder i ofalu am ddioddefwyr ac yn sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi’n iawn, meddai Elfyn Llwyd.

Mae AS Dwyfor Meirionnydd wedi cyflwyno mesur yn y Senedd ac, er nad yw’n debyg o gael digon o amser i ddod yn gyfraith, mae wedi cael cefnogaeth gan aelodau o bob plaid.

‘Hir a chymhleth’

“Dw i wedi credu ers tro nad yw dioddefwyr troseddau’n cael y gefnogaeth y maen nhw’n ei haeddu gan ein system gyfiawnder,” meddai Elfyn Llwyd wrth gyflwyno’r mesur.

Roedd prosesau cwyno ac apelio’n hir a chymhleth ac yn torri calonnau dioddefwyr a’u hatal rhag defnyddio’r system o gwbl, meddai wedyn.

Fe fyddai ei fesur hefyd yn sicrhau’r hawl i blant a phobol fregus roi tystiolaeth o bell ac yn creu lleoedd preifat i ddioddefwyr aros am achosion llys.