Nigel Farage
Mae plaid UKIP wedi rhoi’r gorau i’w haddewid i gadw nifer y mewnfudwyr i mewn i wledydd Prydain i lai na 50,000 bob blwyddyn.
Yn lle hynny, maen nhw eisiau cyflwyno system bwyntiau debyg i honno yn Awstralia sy’n penderfynu sut fath o bobol ddylai gael symud i mewn.
Mae’r blaid eisoes wedi cael ei beirniadu am ollwng yr addewid ond, yn ôl ei harweinydd, Nigel Farage, fe fyddai’r system newydd yn dod â “rheswm” yn ôl i’r sefyllfa.
Yr addewidion newydd
Mae’r addewidion newydd yn cynnwys:
- System bwyntiau i reoli sut fath o bobol sy’n dod i mewn.
- Comisiwn i reoli mewnfudo.
- Cymryd rheolaeth tros ffiniau trwy adael yr Undeb Ewropeaidd.
- Rhoi’r gorau i wahaniaethu rhwng mewnfudwyr o’r tu mewn a’r tu allan i’r Undeb.
- Rhoi hawl i fewnfudwyr sy’n dod i mewn dan yr hen drefn i gael fisas pum mlynedd, ond heb hawl i gael budd-daliadau a gyda gorfodaeth i brynu yswiriant iechyd.
‘Rheoli ansawdd’
Roedd Nigel Farage yn honni mai tua 27,000 o bobol fyddai wedi dod i mewn i wledydd Prydain dan system UKIP y llynedd.
Roedd yn beio gormod o fewnfudo am ostwng cyflogau ac argyfwng y gaeaf mewn ysbytai.
Roedd pobol gwledydd Prydain, meddai, eisiau i UKIP “reoli ansawdd y bobol sy’n dod i’r wlad yma, nid jyst y niferoedd”.