Owen Smith
Mae gweithwyr Cymru wedi cael llond bol ar bropaganda’r Torïaid, yn ôl llefarydd y Blaid Lafur ar faterion Cymreig, Owen Smith.
Yn ystod cwestiynau Cymreig yn San Steffan – y rhai ola’ cyn yr Etholiad Cyffredinol – honnodd Owen Smith fod 90,000 o swyddi yng Nghymru yn rhai ar gytundebau dim oriau.
Mae’r rheiny, meddai, yn talu £300 yn llai yr wythnos ar gyfartaledd na swyddi llawn amser.
Roedd hefyd yn dweud bod incwm teuluoedd yng Nghymru sydd mewn gwaith wedi cwympo o dan y llywodraeth bresennol.
Cymru’n ‘dewis Cameron nid Miliband’
Tarodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb yn ôl, gan gyfeirio at bôl piniwn y BBC sy’n awgrymu bod mwy o bobol Cymru am weld y Ceidwadwr David Cameron yn hytrach na’r arweinydd Llafur Ed Miliband yn Brif Weinidog Prydain.
Dywedodd Stephen Crabb fod record y Blaid Lafur “yn sgandal” o ran swyddi yng Nghymru – roedd llai na 3% o weithwyr Cymru ar gontractau dim oriau, meddai.